-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol efallai y byddwch yn cael eich hun yn wynebu achos disgyblu. Bydd y canllawiau hyn yn rhoi syniad cyffredinol i chi o'r hyn i'w ddisgwyl, ond nid ydynt yn gwbl gyflawn na thrylwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Llais Myfyrwyr am drafodaeth bellach.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ni ddylech weithredu mewn unrhyw fodd a allai niweidio enw da'r brifysgol. Mae'n bwysig eich bod yn deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Yn achlysurol gall myfyrwyr gael eu hunain mewn sefyllfa lle maent wedi torri rheoliadau'r brifysgol, sy'n arwain at gŵyn ynghylch eu hymddygiad. Os ydych chi'n wynebu honiadau ynghylch eich ymddygiad, gall y brifysgol gychwyn ymchwiliad o dan Reoliad 21.
Gall y Tîm Llais Myfyrwyr gynnig arweiniad a chyngor cyfrinachol anfeirniadol ynglŷn â’ch sefyllfa. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth yw'r honiad sydd yn eich erbyn a hefyd eich bod yn manteisio ar eich cyfle i ymateb. Gall y Tîm Llais Myfyrwyr eich cynghori ar beth fydd yn digwydd nesaf, y drefn sy'n rheoleiddio sut y dylai'r brifysgol ymchwilio i wahanol fathau o gamymddwyn ac eich helpu i baratoi eich ymateb i honiad.
Os byddwch yn cael eich cyhuddo o drosedd ddisgyblu byddwch yn derbyn llythyr gan y brifysgol yn amlinellu'r honiadau a beth fydd yn digwydd nesaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael eich gwahodd i fynd i wrandawiad disgyblu lle bydd eich achos yn cael ei ystyried gan banel. Mae hwn yn gyfle ichi gael dweud eich dweud ac egluro beth sydd wedi digwydd. Bydd y pwyllgor yn ystyried y wybodaeth a'r dystiolaeth a roddwyd gennych chi ac unrhyw rai eraill perthnasol. Yna byddant yn penderfynu a yw'r cyhuddiad yn eich erbyn yn cael ei gadarnhau, a rhoi cosb os yw hynny'n briodol.
Gall y Tîm Llais Myfyrwyr
1. Eich helpu i ddeall y drefn a beth i'w ddisgwyl o'r Gwrandawiad Disgyblu
2. Eich cynorthwyo i lunio datganiad ysgrifenedig cyn ei gyflwyno
3. Eich cynghori ynglŷn â pha ddogfennau ategol y bydd arnoch eu hangen
4. Treulio amser gyda chi cyn y gwrandawiad i sicrhau eich bod wedi paratoi'n drylwyr ac yn gallu ateb cwestiynau posib.
5. Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd neu bwyllgorau sy'n ymwneud â'r achos o gamymddwyn.
6. Trafod y canlyniadau ac egluro unrhyw oblygiadau. Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, yna gallwn eich helpu gyda hynny hefyd.
Rydym yn deall y gall derbyn gwahoddiad i wrandawiad disgyblu fod yn frawychus. Os cewch eich galw i wrandawiad o'r fath, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'r Tîm Llais Myfyrwyr cyn gynted â phosibl.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig. Rhif Elusen: 1177930. Mae’n gwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru. Rhif cwmni 11295063. Y mae swyddfa gofrestredig y cwmni ar 4ydd Llawr Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd, LL572T