Os amheuir myfyriwr o Gamymddwyn Academaidd, bydd yn cael ei wahodd i drafod yr honiad o dan y Drefn Dilysrwydd Academaidd.
Mae dilysrwydd academaidd yn golygu bod yn onest, yn ddibynadwy, yn ddiwyd, yn deg a dangos parch, ac mae'n ymwneud â sicrhau dilysrwydd gwaith myfyriwr ac yn y pen draw â'r cymhwyster a ddyfernir iddynt gan Brifysgol Bangor. Mae'r Drefn Dilysrwydd Academaidd hon yn berthnasol i faterion yn ymwneud ag arholiadau a gwaith cwrs.
Mae camymddwyn academaidd yn cynnwys materion yn ymwneud â llên-ladrad, cyd-dwyllo, twyllo, torri rheoliadau arholiadau, llunio data ffug, dynwared eraill neu ddefnyddio banciau neu felinau traethodau ar gyfer asesiad.
Rydym yn sylweddoli efallai na fydd rhai myfyrwyr wedi nodi ffynonellau/cyfeiriadau yn ddigonol neu wedi gorddibynnu ar ddeunydd y cyfeiriwyd ato heb ddigon o gyfraniad academaidd annibynnol. Byddai hynny yn cael ei ystyried o dan y term 'ymarfer academaidd gwael'. Yn yr achosion hyn byddem yn cynghori'r myfyrwyr yn gryf i gysylltu â Gwasanaeth Sgiliau Astudio'r Brifysgol (cysylltiad i'r dudalen), a all gynnig cyngor a chefnogaeth ragorol ar strwythuro aseiniadau a nodi ffynonellau.
Proses
Fel arfer, gofynnir i fyfyrwyr fynd i gyfarfod gyda'u hysgol pan fydd y brifysgol yn amau bod rhyw fath o gamymddwyn academaidd wedi digwydd. Pwrpas y cyfarfod yw ceisio canfod a oes camymddwyn academaidd wedi digwydd. Os canfyddir bod hynny wedi digwydd, yna bydd y panel yn penderfynu ar y camau priodol yn dibynnu ar ddifrifoldeb y camymddwyn.
Mewn rhai achosion mwy difrifol neu sy’n ail achos o gamymddwyn academaidd, gwahoddir y myfyriwr i banel ymholi. Bydd yn cynnwys panel o sawl aelod staff o wahanol adrannau yn y brifysgol. Caiff yr honiad ei ddarllen i chi a chewch y cyfle i ateb yr honiad a chynnig unrhyw dystiolaeth. Fel mewn achos ar lefel ysgol, os canfyddir bod camymddwyn academaidd wedi digwydd, yna bydd y panel yn penderfynu ar y camau priodol yn dibynnu ar ddifrifoldeb y camymddwyn.
Amgylchiadau Arbennig
Ni ellir defnyddio amgylchiadau arbennig i gyfiawnhau camymddwyn academaidd, ond gellir eu cymryd i ystyriaeth pan bennir cosb.
Gallwch gyflwyno manylion am eich amgylchiadau arbennig pan fo honiad wedi cael ei wneud, ond rhaid iddynt fod â chysylltiad uniongyrchol â'r honiad o gamymddwyn academaidd a wnaed yn eich erbyn. Er mwyn i'ch amgylchiadau arbennig gael eu cymryd i ystyriaeth, bydd angen i chi gyflwyno'r manylion angenrheidiol, ynghyd â thystiolaeth gefnogol cyn y gwrandawiad.
Sut gall Undeb y Myfyrwyr helpu?
Os cewch eich cyhuddo o lên-ladrad neu fath arall o gamymddwyn academaidd, gall Undeb y Myfyrwyr wneud y canlynol:
1. Esbonio'r rheoliadau a’ch tywys trwy'r broses
2. Eich cynghori ar unrhyw gosbau posib
3. Eich cynorthwyo i baratoi datganiad
4. Eich cynghori ar ba dystiolaeth ychwanegol y gallwch ei chyflwyno
5. Dod i'r gwrandawiad gyda chi
6. Eich cynorthwyo i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad