Er y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn mynd trwy fywyd prifysgol heb brofi unrhyw anawsterau mawr, yn anffodus o bryd i'w gilydd gall rhai myfyrwyr ddod ar draws sefyllfa pan fyddant yn teimlo'n anfodlon neu'n teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg.
Am beth y gallaf gwyno?
Gallwch ddefnyddio'r Drefn Cwynion Myfyrwyr i gwyno am raglen neu unrhyw wasanaethau eraill a gynigir gan y brifysgol. Diffinnir cwyn fel mynegiad o anfodlonrwydd gan un neu fwy o fyfyrwyr ynghylch gweithredu neu ddiffyg gweithredu'r brifysgol, neu ynghylch safon gwasanaethau a ddarperir gan y brifysgol neu ar ei rhan.
Mae’r mathau o gwynion y gellir eu gwneud gan ddefnyddio’r drefn yn cynnwys y canlynol:
• Gwybodaeth anghywir am raglen academaidd neu wasanaeth arall
• Addysgu neu oruchwyliaeth wael
• Cyfleusterau annigonol
• Methiant gwasanaeth prifysgol boed yn un academaidd neu anacademaidd.
Y broses
Mae'r brifysgol yn rhagweithiol o ran ymdrin â chwynion a'u datrys yn anffurfiol. Fel arfer pan dderbynnir cwyn ymchwilir iddi yn y lle cyntaf gan Bennaeth Ysgol/Gwasanaeth, a fydd yn ceisio datrys y mater yn anffurfiol ac yn cyflwyno ymateb ffurfiol i'r myfyriwr. Dyma'r broses y mae'n rhaid i chi ei dilyn yn y lle cyntaf gyda chŵyn.
Os ydych yn dal i fod yn anfodlon â'r penderfyniad, y cam nesaf yw cyflwyno cwyn ffurfiol i'r brifysgol. I wneud hynny mae angen anfon eich cwyn wreiddiol, ymateb yr ysgol a datganiad yn dweud pam yr ydych chi, y myfyriwr, yn parhau i fod yn anfodlon.
Mewn rhai achosion, caiff cwynion eu cyfeirio'n uniongyrchol ymlaen i gam ffurfiol y brifysgol, ond bydd y mwyafrif yn mynd trwy'r ysgol yn y lle cyntaf.
Beth all Undeb y Myfyrwyr ei wneud i helpu?
Gall Undeb y Myfyrwyr eich cynorthwyo gyda chwyn trwy wneud y canlynol:
• Eich cynghori ar y Drefn Cwynion Myfyrwyr
• Eich cynorthwyo i lunio a chasglu eich datganiadau o gŵyn
• Eich cynorthwyo gydag chasglu tystiolaeth
• Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd a gynhelir.
• Cyflwyno'r gŵyn i'r aelodau staff priodol, ar eich rhan.
• Bod yn bwynt cyswllt cyntaf.
Ni ddylid defnyddio’r Drefn Cwynion Myfyrwyr at y dibenion canlynol:
•I gwyno am ymarweddiad neu ymddygiad myfyriwr arall. (Dylai'r cwynion hyn gael eu cyfeirio at y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol).
•I gwyno am ymddygiad aelod staff a'r gŵyn honno heb gysylltiad â gwaith neu brofiad academaidd y myfyriwr. (Rhaid cyfeirio cwynion o'r fath at y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio yn y lle cyntaf i benderfynu a ddylid cyfeirio'r gŵyn at Adnoddau Dynol).
•I apelio yn erbyn canlyniadau asesiad academaidd, yn erbyn penderfyniad ar gynnydd academaidd, neu yng nghyswllt cymhwyster terfynol. (Dylid defnyddio'r Drefn Apeliadau Academaidd).
Gall Undeb y Myfyrwyr gynnig cyngor a chefnogaeth ar yr holl faterion uchod.