Amdanom Ni

Beth yw Undeb y Myfyrwyr? Yr Undeb Myfyrwyr yw llais y Myfyrwyr a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor!

Mae Undeb Bangor ar gyfer holl fyfyrwyr Bangor ac yn cael ei arwain gan gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sy'n gweithio i gyfoethogi a gwella eich profiad myfyriwr.

Mae gennym dîm o Swyddogion Sabothol (Sabbs) ymroddedig sy’n gweithio i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a bod y math o weithgareddau sydd ei angen yn cael ei datblygu. Yn cefnogi'r Swyddogion Sabothol mae staff proffesiynol Undeb y Myfyrwyr, tîm profiadol sy’n lletya ymgyrchoedd a pholisïau'r Sabbs; yn cydweithio gyda'r Brifysgol i wella profiad myfyrwyr i bob myfyriwr!

Rydym yn rhedeg y Clybiau Chwaraeon, Cymdeithasau, Projectau Gwirfoddoli, UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), Cynrychiolwyr Cwrs ac ein Rhwydweithiau a Fforwm Myfyrwyr. Mae gennym nifer o gyfleoedd i chi ddod o hyd i hobi newydd, cwrdd ag unigolion tebyg, gwella eich cyflogadwyedd a gwneud gwahaniaeth. Os oes unrhyw beth rydych chi eisiau neu yn meddwl bod angen ei newid, rydyn ni yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi chi, felly cysylltwch â ni!

 

Os hoffech ymuno ag un o'n cymdeithasau anhygoel, mae ffi o £10 am y flwyddyn, sy'n rhoi mynediad i chi i'n holl gymdeithasau. Mae'r ffi hon hefyd yn cynnwys yswiriant, mynediad at grantiau, cymorth staff, cyrsiau hyfforddi, cerbydau UM, a llawer mwy! Gallwch weld y rhestr lawn yma: https://www.undebbangor.com/registration-details/clubs-and-societies-fee-model-2025/membership-fees

Mae dwy opsiwn ar gyfer aelodaeth chwaraeon: Arian ac Aur.

  • Mae aelodaeth Arian yn costio £50 y flwyddyn.
  • Mae aelodaeth Aur yn costio £100 y flwyddyn, ac mae'n ofynnol os ydych am gystadlu yn BUCS.

Mae'r ddau opswin yn caniatáu i chi gystadlu yn Varsity, gwneud cais am grantiau clwb, a chael mynediad i gyfleusterau hyfforddi yn ystod y tymor – a llawer mwy! Gallwch weld y manylion llawn a'r modelau aelodaeth yma: https://www.undebbangor.com/registration-details/clubs-and-societies-fee-model-2025/membership-fees