Fel elusen, mae gan Undeb Bangor Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n bodoli er mwyn sicrhau bod UM yn cael ei redeg yn effeithiol, er budd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli eu hamser i wneud yn siwr bod yr Undeb yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn gweithredu o fewn fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn y gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a'r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae'r Bwrdd yn sicrhau bod UM yn ymateb i newidiadau yn anghenion y myfyrwyr.
Mae cyfrifoldebau allweddol y Bwrdd yn cynnwys:
- Sicrhau bod pob agwedd o waith UM yn gyfreithlon ac yn cwrdd รข gofynion y rheoleiddwyr, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy'n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr.
- Argymell cyllideb ddrafft flynyddol i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan ystyried adroddiadau ariannol rheolaidd, a goruchwylio a chymeradwyo'r broses archwilio flynyddol.
- Gwneud yn siwr bod UM yn ddiddyled ac yn ddiogel yn ariannol o flwyddyn i flwyddyn.
- Sicrhau bod y broses gwneud penderfyniadau yn glir a bod strwythurau llywodraethu yn briodol, yn dryloyw ac yn addas i'r diben.
- Llunio a monitro cynnydd tuag at nodau a amlinellir yng Nghynllun Strategol UM.
- Monitro systemau i reoli risg sefydliadol a pherfformiad.
- Sicrhau bod yr holl waith a ymgymerir gan UM yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gwneud yn siwr fod popeth o fudd i'ch profiad ym Mangor.
- Rheoli, cefnogi a gwerthuso Cyfarwyddwr UM.
- Adnabod meysydd i'w datblygu a llunio systemau i gefnogi newid a hwyluso gwelliant.