-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Yn y flwyddyn yma o weithio fel llywydd, un o fy mlaenoriaethau i ydi hyrwyddo'r Gymraeg. Un syniad sydd gennyf at hyn ydi cynnig ystafell astudio i fyfyrwyr a dysgwyr Cymraeg. Byddaf yn hoffi cael yr ystafell yma yn Pontio gan ei fod yn leoliad syโn caniatรกu myfyrwyr i wneud gwaith ond hefyd i gymdeithasu. Bydd yr ystafell hon yn ffordd effeithiol i hyrwyddo'r Gymraeg gan ei fod yn dod a'r gymuned yn agosach a hefyd yn ofod syโn annog dysgwyr ddod i ymarfer y Gymraeg. Yn ategol, rwyf eisiau denu mwy o fyfyrwyr Cymraeg i Fangor i flaenoriaethu pwysigrwydd UMCB wrth gadw niferoedd yn uchel. Ymhellach mae gen i nod i wella meddwl iechyd myfyrwyr Cymraeg ac un strategaeth sydd gennyf am hyn ydi cyfathrebu efo Chwaraeon Y Cymric i gynnal sesiynau i gadw'n actif ac i wella ffitrwydd. Rwyf hefyd yn edrych ym mlaen i weithio efo'r pwyllgor gwaith ac yn benderfynol o guro'r โsteddfod rhyngolegol fydd yn Bangor y flwyddyn nesaf.