-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
CROESO I HAFAN Y CYNRYCHIOLWYR CWRS
Cofrestrwch i fod yn Gynrychiolydd Cwrs - Cliciwch yma i gofrestru!
Yma ym Mhrifysgol Bangor, mae tua 300 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli bob blwyddyn i'ch cynrychioli mewn materion academaidd. Cynrychiolwyr cwrs yw'r myfyrwyr sydd ar flaen y gad, gan sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ac yn brwydro am newidiadau cadarnhaol sy'n effeithio ar eich profiad academaidd.
Prif waith cynrychiolydd cwrs yw casglu adborth gan fyfyrwyr am eu profiad academaidd. Mae cynrychiolwyr cwrs yn cyfarfod yn rheolaidd â'r staff addysgu yn eich ysgol mewn Pwyllgorau Staff Myfyrwyr i drafod barn myfyrwyr a rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda ni, Undeb Bangor, i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ehangach.
Os oes gennych unrhyw adborth, cadarnhaol neu negyddol, am fodiwl, eich cwrs neu eich profiad academaidd yn gyffredinol, gall eich Cynrychiolydd Cwrs sicrhau ei fod yn cael ei glywed gan y bobl gywir.
I gael gwybod mwy am y rôl, edrychwch ar y Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gynrychiolwyr cwrs? Eisiau cymryd rhan?
Mae croeso i chi anfon e-bost atom, naill ai i fewnflwch y cynrychiolwyr cwrs yn coursereps@undebbangor.com, neu drwy gysylltu â’n cydlynydd cynrychiolaeth yn uniongyrchol drwy e-bostio niamh.ferron@undebbangor.com