IL Addysg -Nida Ambreen

Helo! Rose ydw i, a fi yw eich Is-lywydd Addysg newydd! Cyn dechrau yn y swydd hon, dilynais radd israddedig a gradd feistr mewn Swoleg ym Mangor, ac roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar eneteg lliw brogaod gwenwynig. Ar yr un pryd, gwneuthum lawer o waith gydag Undeb Bangor, a chyflawni nifer o wahanol swyddi pwyllgor mewn amryw o glybiau a chymdeithasau, yn ogystal รข bod yn gynrychiolydd cwrs ac yn arweinydd rhwydwaith. Rwyf am wellaโ€™r drefn cynrychiolwyr cwrs yn y swydd hon, aโ€™i diweddaru ar gyfer ein byd cynyddol ddigidol, cynyddu ein mannau astudio, gwella amserlenni, a grymuso myfyrwyr i weithredu dros sicrhau newidiadau yn ein prifysgol ac yn y gymdeithas ehangach. Rydw i hefyd am barhau i ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol, fel yr wyf wedi'i wneud drwy gydol fy amser yma. Rwyโ€™n edrych ymlaen at weithio gyda phob un ohonoch i wella profiad myfyrwyr yma ym Mangor!