-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
Ar 11 Mawrth 2024, cynhaliodd Undeb Bangor gyfarfod holl fyfyrwyr yn MALT i amlinellu modelau ffioedd newydd clybiau a chymdeithasau. Roedd y cyfarfod yn gyfle i fyfyrwyr weld y model arfaethedig a gofyn unrhyw gwestiynau a chynnig unrhyw adborth.
Mae clybiau a chymdeithasau Undeb Bangor wedi gweithredu o dan fodel aelodaeth am ddim ers 12 mlynedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Undeb Bangor wedi gweithio'n galed i gynnal y system hon. Fodd bynnag, gyda chostau cynyddol a gostyngiadau mewn cyllid, mae hyn wedi dod yn anghynaliadwy. Ar hyn o bryd, cost rhedeg clybiau a chymdeithasau am ddim yw £400,000 y flwyddyn.
Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd, ond roedd angen sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gweithgareddau myfyrwyr. Mae'r rhan fwyaf o undebau myfyrwyr ar draws y sector eisoes yn gweithredu modelau ffioedd tebyg i gefnogi eu clybiau a'u cymdeithasau.
Dilynwch y ddolen hon i wylio recordiad o’r cyfarfod holl fyfyrwyr: https://bangor.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=06e7987e-fd9c-400b-b2f7-b29d012aa11b
Gallwch hefyd weld y cyflwyniad llawn YMA.
Crynodeb o'r Model Ffi Aelodaeth
Nod y model newydd hwn yw creu system deg, gynaliadwy a hygyrch sy'n cefnogi pob clwb a chymdeithas wrth gadw costau mor isel â phosibl. Mae'n bwysig nodi, hyd yn oed gyda'r model ffioedd hwn, y bydd Undeb Bangor yn parhau i roi cymhorthdal i weithrediad clybiau a chymdeithasau.
Egwyddorion y Model Aelodaeth
· Dim ffioedd clwb chwaraeon unigol – ni fydd angen i fyfyrwyr dalu ffioedd ar wahân ar gyfer pob clwb chwaraeon y maent yn ymuno ag ef.
· Dim ffioedd cymdeithas unigol - Gall myfyrwyr ymuno â mwy nag un gymdeithas heb orfod talu fesul cymdeithas.
· Cynaliadwyedd ariannol – Sicrhau y gall clybiau a chymdeithasau barhau i weithredu drwy dalu rhan o’u costau.
· Cadw costau’n isel – Bydd ffioedd yn cael eu gosod ar gyfradd fforddiadwy a hygyrch.
· Darparu gwerth am arian – Mae'r model yn cyd-fynd ag undebau myfyrwyr eraill ac yn sicrhau cefnogaeth barhaus i glybiau a chymdeithasau.
· Cefnogi myfyrwyr sy’n profi caledi ariannol – Rydym yn archwilio ffyrdd o gynorthwyo myfyrwyr a allai brofi trafferth gyda chost ffioedd aelodaeth.
Model Clybiau · Dau docyn mynediad: Aur (£100) ac Arian (£50).
· Gall myfyrwyr ddewis y lefel o weithgarwch, ymrwymiad a chystadleuaeth sydd orau ganddynt.
· Mae'r tocynnau’n caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau chwaraeon a chymryd rhan mewn unrhyw nifer o weithgareddau y mae'r tocyn hwnnw'n caniatáu.
· Dim ffioedd aelodaeth clwb unigol – Unwaith y bydd gennych docyn, gallwch ymuno â chymaint o glybiau ag y dymunwch o fewn yr haen honno.
Cyfeiriwch at y cyflwyniad PowerPoint neu recordiad y cyfarfod i weld y gwahaniaethau rhwng y tocynnau.
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r Clybiau a’u tocynnau mynediad cysylltiedig.
Model Cymdeithasau
· Tocyn Aelodaeth Cymdeithasau’n costio £10.
· Yn caniatáu myfyrwyr i gymryd rhan mewn unrhyw nifer o gymdeithasau.
· Dim ffioedd aelodaeth cymdeithas unigol – Unwaith y bydd gennych docyn, gallwch ymuno â chymaint o gymdeithasau ag y dymunwch.
· Mae’r ffi o £10 yn cefnogi gwaith a datblygiad pob cymdeithas.
Gallwch ddarllen yr holl gwestiynau cyffredin YMA.
Camau Nesaf
Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i dalu am eich aelodaeth ac ymuno â grwpiau’n cael eu rhannu ar ein gwefan dros y misoedd nesaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, anfonwch e-bost at undeb@undebbangor.com.