-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Annwyl Fyfyrwyr,
Fel y gwyddoch, mae'r Brifysgol a'r sector addysg uwch ehangach yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Yn anffodus, nid ydym ni’n eithriad i hyn. Rydym am fod yn dryloyw gyda chi am sut mae hyn yn effeithio ar ein cyllid a pha gamau rydym yn eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
O ganlyniad i'r pwysau ariannol ysydd arnom, rydym wedi bod yn adolygu cyllidebau ac yn adnabod meysydd lle gellir arbed costau. Mae llawer o’r rhain eisoes wedi cael eu rhoi ar waith.
Fodd bynnag, yn anffodus, fel rhan o’r broses hon, rydym wedi gorfod asesu cynaliadwyedd ariannol ein model o gynnig Clybiau a Chymdeithasau am ddim. Er ein bod wedi gweithio’n galed i gadw’r gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim dros nifer o flynyddoedd, mae costau gweithredu cynyddol a thoriadau cyllido yn golygu bod yn rhaid i ni nawr weithio i gyflwyno ffi aelodaeth yn cychwyn o’r flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, nid yw’r manylion terfynol wedi’u cadarnhau eto.
Nid dyma'r penderfyniad yr oeddem yn dymuno ei wneud. Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw opsiwn arall a fydd yn sicrhau cynaliadwyedd ein gweithgareddau ni a chi, ac yn gwarchod y ddarpariaeth ar gyfer y tymor hir.
Rydym yn deall y gall unrhyw newidiadau i fodelau aelodaeth beri pryder i fyfyrwyr. Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn eich hysbysu am unrhyw ddatblygiadau ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni trwy e-bostio undeb@undebbangor.com.
Yn gywir,
Eich Undeb Myfyrwyr.