Semester 1 wedi'i Gwblhau!

Dydd Gwener 06-12-2024 - 16:00

Mae cymaint wedi digwydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf fel bod yn rhaid i ni ysgrifennu erthygl i edrych yn ôl ar y cyfan. Eleni daeth mwy ohonoch nag erioed i’n digwyddiad Serendipedd, a gobeithio eich bod chi i gyd wedi mwynhau’n fawr!

Llongyfarchiadau enfawr i’r holl dimau ac unigolion a gymerodd rhan yn Tashwedd — gyda'ch gilydd, fe wnaethoch godi swm anhygoel o £15,817! Mae hynny'n hollol anhygoel, ac roeddech chi i gyd yn edrych yn wych gyda'ch mwstashis! Sefydlwyd Tashwedd i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer iechyd dynion, yn benodol canser y prostad, canser y ceilliau, iechyd meddwl, ac atal hunanladdiad. Ochr yn ochr â hyn, lansiodd ein Swyddogion Sabothol, Mya a Hollie, eu Hymgyrch Iechyd Meddwl yn hyrwyddo gwasanaeth 111 opsiwn 2. Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn amrywio o sesiynau crefft i weithdai ymwybyddiaeth ofalgar. Byddwn yn lansio cam nesaf yr ymgyrch hon dros yr wythnosau nesaf, gan annog pawb i gysylltu â'u ffrindiau - felly cadwch lygad am hynny!

Ar 21 Tachwedd, cynhaliwyd ein Gŵyl Ddiwylliannol yn Neuadd PJ, gyda 17 o stondinau ein grwpiau a’n cymdeithasau i gyd yn dod at ei gilydd i rannu eu diwylliant. Eleni, roedd yn bleser gennym groesawu UMCB, sef undeb y myfyrwyr Cymraeg, ochr yn ochr â pherfformiadau gwych ar y prif lwyfan, gan gynnwys arddangosiadau crefftau ymladd a sioe gan K-Dragons. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ac a gymerodd ran - roedd yn noson fendigedig, yn llawn bwyd blasus a dathlu diwylliannol!

Ar 3 Rhagfyr, bu i ni unwaith eto gynnal Gorymdaith Adennill y Nos, sef safiad yn erbyn camymddwyn rhywiol a sbeicio. Cawsom ein syfrdanu gan y nifer a oedd yno — gorymdeithiodd dros 70 ohonoch i lawr Stryd Fawr Bangor i sefyll dros yr hyn yr ydych yn ei gredu. Cyn yr orymdaith, fe wnaethom hefyd gynnal sesiynau creu placardiau.

Ond nid dyna ddiwedd y digwyddiadau! Mae gennym ni bryd Nadolig arbennig ar y gweill ar 11 Rhagfyr, a gallwch archebu eich lle yma: Archebu Cinio Nadolig.

Mae ein Swyddogion Sabothol wedi bod yn gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i wella eich profiad fel myfyrwyr a hyrwyddo’r materion sydd bwysicaf i chi.

Yn y flwyddyn newydd, bydd Serendipedd 2 yn ôl ar 29 Ionawr, a bydd y cyfnod Etholiadau Swyddogion Sabothol yn dechrau’n fuan wedi hynny.

O, a soniodd rhywun am Varsity...?

Nadolig Llawen, a welwn ni chi flwyddyn nesaf!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...