-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Yn Undeb Bangor, rydym yma i'ch cynrychioli chi, ond ydan ni wedi'n strwythuro yn y ffordd orau i wneud hynny?
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wasanaethu myfyrwyr yn effeithiol, rydym yn lansio Adolygiad Democratiaeth. Bydd hyn yn adolygu sut rydym yn gwneud penderfyniadau, yn cynnal etholiadau, ac yn ymgyrchu ar y materion sy’n bwysig i fyfyrwyr. Bydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar rôl ein Swyddogion Sabothol i weld a ydynt yn dal i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw.
Dyma’r adolygiad llawn cyntaf o’n strwythur swyddogion ers dros 12 mlynedd, ac rydym eisiau sicrhau bod ein Hundeb Myfyrwyr yn addas i bwrpas — yn awr ac yn y dyfodol.
Beth fydd yr Adolygiad yn Canolbwyntio Arno?
Bydd yr Adolygiad Democratiaeth yn archwilio:
✅ Swyddi Swyddogion Sabothol – Ydyn nhw’n dal i fod yn berthnasol? A ydy’r strwythur swyddi yn cynrychioli myfyrwyr yn effeithiol?
✅ Strwythurau Gwneud Penderfyniadau – Sut mae’r Undeb yn gwneud penderfyniadau allweddol, ac a yw’r broses hon yn gweithio i fyfyrwyr heddiw?
✅ Ymgyrchu a Gweithredu – Ydyn ni wedi’n strwythuro mewn ffordd sy’n galluogi myfyrwyr i yrru newid ar y materion sy’n bwysig iddynt?
Drwy adolygu’r meysydd hyn, ein nod yw creu Undeb Myfyrwyr mwy effeithiol ac ymatebol sy’n adlewyrchu’r ffordd y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’u Hundeb yn 2025 a thu hwnt.
Cryfhau Swydd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)
Rhan allweddol o’r adolygiad hwn fydd edrych ar swydd Llywydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) a llywodraethaint UMCB a sut gallwn gryfhau’r berthynas rhwng UMCB ac Undeb Bangor.
Daeth UMCB yn rhan llawn o’r Undeb Myfyrwyr yn 2018, ond nid yw’r bartneriaeth hon wedi’i hadolygu’n ffurfiol ers hynny. Mae’n bwysig bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n llawn o fewn yr Undeb a bod gan Lywydd UMCB cymorth a’r strwythur llwyodraethiant sydd eu angen i eirioli dros fyfyrwyr yn effeithiol.
Trwy’r adolygiad hwn, byddwn yn ystyried sut gall y swydd hon ddatblygu i sicrhau bod y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn aros wrth galon cynrychiolaeth myfyrwyr ym Mangor.
Pam Nawr?
Mae anghenion a disgwyliadau myfyrwyr yn newid yn barhaus, ac rydym am sicrhau bod Undeb Bangor yn parhau i fod yn fudiad sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, yn effeithiol, ac sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Bydd yr adolygiad hwn yn ein helpu i benderfynu:
🔹 A yw ein swyddi swyddogion wedi’u strwythuro’n gywir i gwrdd â heriau’r blynyddoedd i ddod.
🔹 A yw ein prosesau gwneud penderfyniadau yn galluogi myfyrwyr i ddylanwadu ar yr Undeb yn effeithiol.
🔹 Sut y gallwn gryfhau cynrychiolaeth y Gymraeg a sut gallwn feithrin perthynas fwy clos a chymodlon ag UMCB.
Bydd y canfyddiadau’n ein helpu i lunio dyfodol yr Undeb, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gorff cryf, democrataidd, a chanolog i fyfyrwyr.
Beth sy’n digwydd nesa?
Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal gyda chymorth ymgynghorydd allanol annibynnol, sydd â phrofiad o weithio gydag Undebau Myfyrwyr ar brosiectau tebyg ac sydd â dealltwriaeth o Undeb Bangor a’n cyd-destun lleol.
Bydd canlyniadau’r adolygiad yn cael eu rhannu yn ddiweddarach eleni, gydag unrhyw newidiadau yn disgwyl cymryd lle o’r flwyddyn academaidd 2026/27 ymlaen.
Sut i Ddweud eich Dweud?
Os ydych chi eisiau dweud eich dweud am ein hadolygiad democratiaeth yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llenwi'r arolwg hwn
Mae hyn yn gam hollbwysig i sicrhau bod Undeb Bangor yn parhau i fod yn lais cryf i fyfyrwyr—nawr ac yn y dyfodol.