-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Does dim digwyddiadau eto ar gyfer y grŵp hwn.
Mae’r Gymdeithas Goedwigaeth yn rhoi cyfle i chi deithio'r byd a dysgu am goedwigaeth a'r amgylchedd yma yng ngwledydd Prydain a thramor. Mae'n denu myfyrwyr o bob cwrs ar draws Prifysgol Bangor, yn cynnig llwyfan i fyfyrwyr uchelgeisiol sy'n dymuno creu newid ac yn gyfrwng i wella profiad myfyrwyr.
Bydd yn gyfle i greu cysylltiadau â myfyrwyr, staff, a chyflogwyr y dyfodol, gwneud gwahaniaeth ym Mangor a meithrin sgiliau gwerthfawr. Mae'n ffordd wych o gysylltu ag unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd sydd â diddordebau tebyg a mynd ar deithiau wedi'u sybsideiddio i bob math o wledydd a lleoliadau diddorol - er enghraifft De Affrica, Mecsico a Chanada.
Rydym yn cynnal sgyrsiau academaidd trwy gydol y flwyddyn gan weithwyr proffesiynol ym maes coedwigaeth a’r amgylchedd, sy'n gyflwyniad gwerthfawr iawn i'r byd gwaith. Maent yn cael eu cynnal yn bennaf gyda’r hwyr yn adeilad Thoday.
Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth ac ychwanegu rhywbeth i'ch profiad prifysgol! Eleni mae gennym nifer o siaradwyr gwadd cyffrous wedi'u trefnu’n barod!
(Dilynwch ni ar Facebook am fwy o wybodaeth!)