Amdanaf i

Helo, Nida Ambreen ydw i, Llywydd newydd Undeb Bangor.
Fy mhedair prif flaenoriaeth yw:
1.    Gwella cynrychiolaeth myfyrwyr a chau'r ddolen adborth.
2.    Ymgyrch Pwysau Iach, Cymru Iach.
3.    Mynd i'r afael â’r heriau costau byw.
4.    Eirioli dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chefnogi myfyrwyr rhyngwladol.
Amdanaf i:
Rwy'n dod o Islamabad, Pacistan, lle cwblheais fy ngradd israddedig mewn Meddyginiaeth Milfeddygol ym Mhrifysgol Amaethyddiaeth Arid. Ar hyn o bryd rydw i’n dilyn cwrs Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus a Hyrwyddo Iechyd yma ym Mhrifysgol Bangor.
Â’m cefndir mewn meddyginiaeth milfeddygol, rwy’n arbennig o hoff o gŵn ac rwy'n gwerthfawrogi'r cwlwm unigryw sy’n bodoli rhyngddynt a bodau dynol. Mae fy hobïau yn esblygu o hyd, ond ar hyn o bryd mae gen i ddiddordeb angerddol mewn ffotograffiaeth a phrynais gamera newydd yn ddiweddar i wella fy sgiliau. Rwyf hefyd yn cerdded a gwerthfawrogi harddwch byd natur Bangor, yn arbennig y golygfeydd anhygoel o Brif Adeilad y Celfyddydau. Rwyf hefyd yn mwynhau coginio, yn enwedig pan fydd hynny’n golygu paratoi bwyd Pacistanaidd sbeislyd. Mae gen i gariad dwfn o hufen iâ i’r graddau na allaf ei wrthsefyll.
Mae fy nhaith o Bacistan i Fangor, y Deyrnas Unedig, wedi cael ei hysgogi gan fy nhrywydd academaidd a hefyd gan fy niddordebau personol. Fel Llywydd Undeb Bangor, rwy’n ymrwymo i ddod â phersbectif unigryw i Undeb y Myfyrwyr a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned myfyrwyr, gan dynnu ar fy amrywiaeth o brofiadau a diddordebau i arwain gydag empathi ac ymroddiad.