Ble alla i ddod o hyd i'r cynhyrchion?
Gallwch ddod o hyd i beiriannau dosbarthu yn y ddwy Swyddfa Neuadd (St Mary's ac Ffriddoedd ). Gan nad oes cyfleusterau golchi dwylo yno, gwnewch yn siŵr eich bod yn diheintio eich dwylo cyn ac ar ôl cymryd cynhyrchion o'r peiriannau. Bydd cynhyrchion hefyd ar gael yn y ddwy siop ar y campws (Barlow's ac Ffriddoedd; fe welwch y peirannau dosbarthu wrth y fynedfa i'r ddwy siop a gallwch gymryd cymaint o gynhyrchion ag sydd eu hangen arnoch yn rhad ac am ddim.;
Os yw’r logo ‘Planet Friendly Periods’ ar ddrws y toiled bydd y cynhyrchion ar gael yno felly cadwch lygad am y logo!
Rydym eisiau annog myfyrwyr i allu cael gafael ar gynhyrchion yn hyderus, gan leihau'r stigma cysylltiedig. Felly mae’r cynhyrchion wedi’u gosod ar arwynebau yn y toiledau, yn aml yn agos at y sinc.
Mae hyn yn berthnasol i doiledau gwrywaidd, benywaidd a niwtral o ran rhywedd. Mae unedau dosbarthu wedi'u gosod ar y wal mewn toiledau hygyrch.
Dyma fanylion y toiledau lle gallwch ddod o hyd i gynhyrchion, fesul adeilad:
Pa gynnyrch sydd ar gael?
Padiau llif trwm gan Hey Girls - 100% yn rhydd o blastig, clorin a channydd.
Tamponau cyffredin â dodwyr cardbord gan TOTM - 100% cotwm organig, heb bersawr, clorin na channydd.
Gwnaethom ddewis y cyfuniad hwn ar sail yr adborth o'n harolwg cychwynnol yn y gobaith y byddai’n diwallu cymaint o anghenion myfyrwyr â phosibl yn ogystal â darparu ar gyfer llif yn amrywio o’r ysgafn at y trwm.
Gwnaethom ddewis yr unedau dosbarthu sydd wedi’u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu gan TOTM yn dilyn ymgynghori ag Iechyd a Diogelwch a Gwasanaethau’r Campws am yr unedau dosbarthu mwyaf priodol i'w defnyddio ar hyn o bryd, i ddiogelu iechyd a lles myfyrwyr.
Maent yn agored ac yn dryloyw, er mwyn i fyfyrwyr allu casglu cynhyrchion heb lawer o gyswllt â'r unedau dosbarthu eu hunain nac unrhyw gynnyrch arall sydd ynddynt.
Diogelwch eich hun a'r person sy’n eich dilyn; ceisiwch beidio â thwrio o gwmpas am gynhyrchion a naill ai golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylenydd cyn neu ar ôl cymryd eitem.
Unedau dosbarthu mewn toiledau gwrywaidd
Rydym am i bob myfyriwr deimlo'n gyffyrddus ac yn hyderus ynglŷn â chael mynediad at gynhyrchion ac mae'r cynllun hwn ar gyfer pawb sy'n cael mislif waeth beth fo'u rhywedd. Felly, ystyriwyd yn ofalus wrth benderfynu ble i osod yr unedau mewn toiledau dynion. Ein bwriad oedd gosod yr unedau dosbarthu y tu mewn i giwbiclau er mwyn gallu eu casglu heb i neb weld.
Yn anffodus, yn dilyn ymgynghori ag Iechyd a Diogelwch, ni fydd hynny’n bosibl ar hyn o bryd. Mae’r unedau wedi'u gosod ar arwynebau yn y toiled cyffredinol fel ail ddewis gorau. Rydym yn trin eich iechyd a'ch lles fel blaenoriaeth ac eisiau i chi gael mynediad at gynhyrchion yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
Os nad yw'r dull hwn o gasglu cynhyrchion yn gweithio i chi neu os hoffech ddwyn ein sylw at unrhyw fater yn ymwneud â mynediad, anfonwch e-bost at Josie Ball (josie.ball@undebbangor.com).
Gallwch hefyd ymateb yn yr arolwg terfynol y byddwn yn ei lansio i gasglu adborth am y cynllun a'r ymgyrch.
Biniau glanweithdra mewn toiledau gwrywaidd
Beth yw'r pwynt o gael cynhyrchion mislif heb unman i gael gwared ohonynt? Bydd bin glanweithdra yn awr ar gael mewn ciwbicl ym mhob un o'r toiledau sy'n cynnwys cynhyrchion mislif. Yn gyffredinol cânt eu gosod yn y ciwbicl pellaf i’r chwith ym mhob toiled.
Sut mae rhoi gwybod am stoc isel neu unedau dosbarthu gwag?
Bydd Gwasanaethau Campws yn ailgyflenwi cynnyrch yn ddyddiol. Serch hynny, cyfrifoldeb myfyrwyr yw adrodd am stoc isel y tu hwnt i hynny. Cysylltwch â'r ddesg gymorth i adrodd am stoc isel neu unedau dosbarthu gwag:
https://www.bangor.ac.uk/property-and-campus-services/helpdesk.php.en
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Gam 2 y broses ddosbarthu sy'n cynnwys campws Wrecsam. Byddant wedi’u lleoli mewn nifer o doiledau gwrywaidd, benywaidd, hygyrch a niwtral o ran rhywedd yn adeiladau Cambrian 1 a 2 a'r Llyfrgell a chânt eu hychwanegu at y rhestr o doiledau pan fydd y peiriannau dosbarthu wedi’u gosod.
Peiriannau dosbarthu Gwyddorau’r Eigion
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Gam 2 y broses ddosbarthu sy'n cynnwys Gwyddorau’r Eigion. Byddant wedi’u lleoli mewn nifer o doiledau gwrywaidd, benywaidd, hygyrch a niwtral o ran rhywedd yn adeiladau Craig Mair, y Labordy Bysgod a Westbury Mount a chânt eu hychwanegu at y rhestr o doiledau pan fydd y peiriannau dosbarthu wedi’u gosod.