-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Mae Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Effaith Werdd yn Undebau Myfyrwyr Effaith Werdd 2023-24. Dyma'r lefel uchaf y gallwch chi ei chyflawni. Effaith Werdd yw rhaglen arobryn y Cenhedloedd Unedig a gynlluniwyd i gefnogi ymarfer amgylcheddol a chymdeithasol gynaliadwy yn eich sefydliad.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol i Undeb Bangor ennill y wobr hon oherwydd ymdrechion ei staff, y swyddogion, a’r myfyrwyr i fynd i’r afael â materion pwysig o ran cynaliadwyedd a’r amgylchedd, yn ogystal â gweithio i ymgorffori newidiadau cynaliadwyedd cadarnhaol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Undeb y Myfyrwyr wedi creu Polisi Cynaliadwyedd (2024-27) a Chynllun SMART (2024-25) i amlygu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, meysydd blaenoriaeth yn ymwneud â chynaliadwyedd, a chamau penodol y byddwn yn eu cymryd i wella ein cynaliadwyedd mewn wyth maes allweddol.
Dywedodd Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a’r Gymuned, “Mae cynaliadwyedd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn gweithio'n barhaus i werthuso ein heffaith ac ymgorffori arferion a ffyrdd o feddwl amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol yn ein gwaith. Mae’n galonogol gweithio gydag aelodau o staff a Thîm Swyddogion Sabothol sy’n angerddol am wahanol feysydd cynaliadwyedd a gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y projectau, digwyddiadau, ac ymgyrchoedd rydym yn eu cyflawni.”
I ennill y wobr hon eleni, rydym wedi cyflwyno nifer o ymgyrchoedd cynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff, Wythnos Masnach Deg, Wythnos Gwirfoddoli, ac Ymgyrch Iechyd Rhywiol. Fel rhan o'r ymgyrchoedd hyn, rydym wedi trefnu sesiynau glanhau traethau gyda chefnogaeth dros 50 o wirfoddolwyr, Caffis Trwsio lle trwsiodd gwirfoddolwyr 30 o eitemau, a digwyddiadau Ffeirio Dillad lle cafodd dros 280 o eitemau eu cyfnewid.
Aiff Josie yn ei blaen i ddweud, “Rydym yn cefnogi ac yn annog cymuned anhygoel o fyfyrwyr sy'n gweithio ar eu projectau eu hunain i gefnogi cyd-fyfyrwyr, ein cymuned leol, a'r amgylchedd trwy gydol y flwyddyn. Mae ein Her Cynaladwyedd newydd wedi’i chynllunio i fynd â’n hymrwymiad a’n heffaith i’r lefel nesaf, gan annog pob grŵp o fyfyrwyr i adfyfyrio ar eu cynaliadwyedd mewn pedwar maes allweddol a gwneud newidiadau bach, cyraeddadwy i’w gweithrediadau.”
Eleni, rydyn ni hefyd yn cefnogi dros 38 o grwpiau myfyrwyr, gan gynnwys Rhwydweithiau Myfyrwyr, Cymdeithasau, a Phrojectau Gwirfoddoli, i gyflwyno gweithgareddau sydd o fudd i’n cymuned a’n hamgylchedd lleol. Lansiwyd ein Project Prydau Poeth dan arweiniad myfyrwyr, sy'n darparu 50-80 o brydau poeth am ddim i aelodau'r gymuned bob dydd Sadwrn.
Mae Undeb Bangor yn edrych ymlaen at ddatblygu ei waith cynaliadwyedd ymhellach yn y flwyddyn i ddod a gweithio gyda myfyrwyr a swyddogion i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd.