Rheolau a Rheoliadau

Llywodraethir Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor gan Is-Ddeddf 7 – Etholiadau, yng Nghyfansoddiad Undeb Bangor (gweler yma- www.UndebBangor.com/governancedocuments) a gan y rheolau a’r rheoliadau a osodir isod, fel y’i cymeradwywyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor.

Gall dorri unrhyw un o’r rheolau hyn arwain at gosbau i’r ymgeisydd, ymgyrchwr neu ymgyrch.

Enwebiadau

Caiff yr ymgeisydd eu cofrestru yn yr etholiad pan fydd wedi cyrraedd y meini prawf canlynol yn llwyddiannus:

Enwebu eu hunain gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.

Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y'u diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasiad ac yn yr Is-ddeddfau.

Mynychu’r Sesiwn Friffio Ymgeiswyr, neu dderbyn briff ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oeddent yn gallu bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau arbennig.

Cytuno i gael eich rhwymo gan y rheolau hyn ac Is-ddeddf 7 Undeb Bangor – Etholiadau.

Briffio Ymgeiswyr

Mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr fynychu’r briff ymgeiswyr.  

Ni chaniateir i’r ymgeiswyr sydd ddim yn mynychu’r briff sefyll yn yr etholiadau.

Os na fydd ymgeisydd yn gallu mynychu’r briff, dyma fydd y broses:

Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno amgylchiadau arbennig i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith o ddyddiad y briff ymgeiswyr.  

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu manylion eu hamgylchiadau arbennig a pham eu bod/nad ydynt yn gallu mynychu.  

Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn penderfynu derbyn yr amgylchiadau hyn neu beidio.

Pan na fydd ymgeiswyr yn gallu mynychu’r briffio o ganlyniad i amgylchiadau arbennig, yn unol â’r uchod, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn trefnu cyfle arall i’r ymgeisydd dderbyn briff ar lafar.  

Er mwyn cael eich cynnwys yn yr etholiad, rhaid i ymgeiswyr fod wedi derbyn sesiwn friffio ymgeisydd ar lafar o fewn 4 diwrnod gwaith i'r sesiwn friffio gychwynnol ar yr amserlen. Mae hyn yn cynnwys y rhai a allai fod wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig yn unol â'r uchod. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn ôl disgresiwn y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y caniateir i ymgeiswyr sefyll yn yr etholiad os nad yw'r uchod wedi'i fodloni.

Testun Maniffesto

Er mwyn rhedeg gyda maniffesto, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu maniffesto yn Gymraeg a Saesneg erbyn y dyddiad cau yn yr amserlen etholiadau.

Dyma’r cyfyngiadau ar destun y maniffesto; 

Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor: dim mwy na 300 gair ym mha bynnag iaith y mae wedi cael ei gyflwyno ynddi. 

Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 gair ym mha bynnag iaith y mae wedi cael ei gyflwyno ynddi.

Ymddygiad

Ni chaiff ymgeiswyr ac ymgyrchwyr sydd, trwy eu hymgysylltiad ag Undeb Bangor, nac unigolion sydd (neu wedi) dal swyddi â chyfrifoldeb o fewn Undeb Bangor, ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt ac nid i fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys offer a dillad a brynwyd gan Undeb Bangor, unrhyw restrau postio canolog Undeb Bangor a grwpiau cyfryngau cymdeithasol swyddogol Undeb Bangor. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ond nid yw’n cynnwys unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol unigol a ddelir gan glybiau neu gymdeithasau.

Caiff ymgyrchwyr ddefnyddio rhestrau post pan fo’n gyfreithlon yn unig. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd hyn yn gofyn caniatâd penodol yr aelodau ar y rhestr i ddefnyddio eu manylion.

Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am yr holl weithgarwch ymgyrchu a gyflawnir yn eu henw; mae hyn yn cynnwys gweithredoedd trydydd parti ar eu rhan.

Cyn dechrau ymgyrchu, caniateir i dimau ymgyrchu ddefnyddio Facebook, WhatsApp neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol eraill i gynllunio a threfnu'n fewnol, ond dylai'r grwpiau hyn fod ar gau, yn breifat ac yn gyfyngedig i dîm craidd yr ymgyrch.

Ni chaniateir i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr: 

Orfodi, gwthio neu ddychryn myfyrwyr mewn unrhyw ffordd, yn enwedig pan fyddant yn agos i neu yn pleidleisio.

Pleidleisio ar ran myfyriwr arall.

Dychryn/bygwth unrhyw gyfranogwyr yn yr etholiad.

Difrodi unrhyw ymgyrch yn fwriadol oni bai am un eu hunain.

Difwyno deunyddiau, cyhoeddusrwydd, cyfryngau ar-lein, gwefan rwydweithio gymdeithasol etc sy’n perthyn i ymgeisydd arall.

Ceisio twyllo'r etholiad.

Gwneud unrhyw ymdrech i ddylanwadu ar ddidueddrwydd y Swyddog Canlyniadau, y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Pwyllgor Etholiadau neu staff Undeb Bangor.

Trafod nodweddion personol ymgeisydd arall.

Camddarlunio safbwyntiau ymgeisydd arall neu wneud honiadau amdanynt eu hunain neu unrhyw ymgeisydd arall sy’n anwir.

Sefydlu 'gorsaf bleidleisio' eu hunain, rhoi dyfais electronig i bleidleiswyr er mwyn pleidleisio, goruchwylio neu wylio pleidleisiwr yn pleidleisio, neu fynnu bod pleidleiswyr yn cymryd eu dyfais electronig eu hunain er mwyn pleidleisio ar unwaith.

Cael eu noddi gan gwmni neu gorff allanol.

Cael eu cefnogi gan adran o'r Brifysgol, Ysgol, Gwasanaeth neu aelod o staff.

Cael budd o staff y Brifysgol yn anfon e-byst at fyfyrwyr ar eu rhan.

Defnyddio grwpiau cyfryngau cymdeithasol, tudalennau neu gyfrifon canolog swyddogol y Brifysgol i gynorthwyo gydag ymgyrchu, os nad ydynt hefyd ar gael i bob ymgeisydd arall. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i'r mathau canlynol o gyfrifon; Coleg, Ysgol, Neuaddau, Gwasanaethau Prifysgol ac ati.

Dwyn anfri ar y broses etholiadol.

Rhaid i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr:

Ufuddhau i’r llythyren a chynnal ysbryd rheolau'r etholiad a pholisïau Cyfleoedd Cyfartal, Dim Goddefgarwch i Aflonyddu a pholisi Dwyieithrwydd Undeb Bangor bob amser.

Dilynwch gyfreithiau a rheoliadau’r tir a’r Brifysgol bob amser.

Gwariant Etholiadau

Mae gan ymgeiswyr gyfyngiad gwariant, na ellir mynd y tu hwnt iddo na'i gynyddu.

Mae’r cyfyngiadau gwariant fel a ganlyn

Etholiadau Swyddogion Sabothol - £30

Mae popeth a ddefnyddir yn yr etholiad yn cael gwerth arian parod gan y Swyddog Canlyniadau, neu ei Ddirprwy enwebedig (ac eithrio eitemau a restrir yn Adran 5.1 isod). Er eglurder, mae’r rheol hon yn berthnasol i ‘rhoddion ymgyrch’ sy’n dal gwerth arian ‘byd go iawn’ ond a allai fod wedi costio dim i chi.

Dylai'r holl adnoddau a dulliau a ddefnyddiwch yn eich ymgyrch etholiadol y gellid rhoi gwerth ariannol iddynt fod ar gael i bob un o'r ymgeiswyr eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio hyn cyn eu defnyddio gyda'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

Ni all unrhyw ymgeisydd gael ei noddi gan gwmni neu gorff allanol.

Mae’r eitemau canlynol, er enghraifft, ar gael yn barod i bob ymgeisydd a’u cefnogwyr ac felly nid oes gwerth ariannol i’w defnyddio’n deg:

Hen grysau T; Paent; Hen gynfasau gwely; Pinnau Marcio; Blu-tack; Cardbord wedi'i ddefnyddio o flaen llaw; Hen bren; Pensiliau; Llinyn; Tâp gludiog; Pinnau, eitemau Gwisg Ffansi sy'n eiddo i chi o flaen llaw. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac fe ddylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

Mae'r rheol hon wedi'i chynnwys er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr i wneud y cyfnod ethol yn gyffrous, bywiog ac uchel ei broffil. Mae'r swyddog canlyniadau a’u dirprwy yn ymwybodol y gallai'r rheol hon fod yn agored i'w chamddefnyddio a byddant yn monitro adnoddau'r ymgyrch yn ofalus o ganlyniad. Cofiwch mai nhw yw’r rhai sy’n pennu ‘defnydd teg’.

Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedig

Etholiadau Swyddogion Sabothol 

Cyfyngir cyhoeddusrwydd printiedig i 30 taflen A3 (dwy ochr), fydd yn cael eu hargraffu gan Undeb Bangor. Ni chaniateir i ymgeiswyr argraffu eu deunydd cyhoeddusrwydd eu hunain.  

Mae’r ymgeiswyr yn gyfrifol am ddyluniad eu cyhoeddusrwydd eu hunain.

Gall ymgeiswyr gynhyrchu faint fynnent o ddyluniadau.

Gall ymgeiswyr gynyddu’r hyn fyddant yn eu hargraffu i uchafswm o 50 taflen A3, trwy drosglwyddo arian o’u cyllideb am 25c y daflen. Er enghraifft, gellir ychwanegu uchafswm o 20 taflen A3 am £5 o gyllideb yr ymgeisydd (20 taflen x 25c).

Deunydd Cyhoeddusrwydd Di-Brintiedig 

Rhwydweithio Cymdeithasol  

Facebook:  

Mae’n rhaid i enw eich tudalen fod yn ddwyieithog. 

Dylai bod eich cyflwyniad, maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn cael eu harddangos yn ddwyieithog. 

Gall ddiweddariadau statws, nodiadau, postiadau wal a thestunau trafod gael eu harddangos yn eich iaith ddewisol. 

Twitter: 

Cewch ymgyrchu yn eich iaith ddewisol. 

Cyfryngau cymdeithasol eraill: 

Dylai bod eich cyflwyniad, maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn cael eu harddangos yn ddwyieithog. 

Fideos Etholiadau: 

Fe’ch anogir i wneud fideos etholiadau a chyhoeddi’r rhain ar gyfryngau cymdeithasol. 

Gall fideos fod yn eich iaith ddewisol.  

Gall unrhyw destun mewn fideos hefyd fod yn iaith ddewisol yr ymgeisydd. 

Deunydd Cyhoeddusrwydd Eraill 

Caniateir i ymgeiswyr cynhyrchu ac/neu brynu deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu eraill yn unol â’r rheolau a nodir dan wariant etholiadau. 

Cyfieithu a Pholisi Dwyieithrwydd 

Mae’n rhaid i destun eich maniffesto a HOLL destun eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu (posteri / taflenni / baneri / crysau-t ac ati,...) gael eu cyflwyno gyda’ch etholiad erbyn y dyddiad cau cyhoeddusrwydd. 

Bydd eich testun yn cael ei gyfieithu, ei wirio a’i roi yn ôl i chi. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yr un mor amlwg yn eich deunydd cyhoeddusrwydd ac ymgyrchu. Er cysondeb rydym ni’n awgrymu bod y Gymraeg ar y chwith neu uwchben y Saesneg. Mae enghreifftiau o gyhoeddusrwydd blaenorol i’w gweld ar wefan Undeb Bangor i’ch arwain.  

Y cyfyngiad cyfieithu ar gyfer cyhoeddusrwydd a baratoir cyn cychwyn ymgyrchu yw:  

Etholiadau Swyddogion Sabothol 

Eich Maniffesto – 350 gair. 

Eich Slogan – 10 gair.  

Testun cyhoeddusrwydd arall – 300 gair.  

Yn dilyn cyfieithu'r holl gyhoeddusrwydd a dderbynnir erbyn y dyddiad cau gall ymgeiswyr gyflwyno dyluniadau neu destun pellach i'w gyfieithu os dymunant ond dylent ganiatáu cyfnod rhesymol o amser i'r uned gyfieithu wneud y gwaith. Ni ellir gwarantu y caiff y cyfieithiad hwn ei anfon, er y gwneir pob ymdrech. 

 

Ymgeiswyr  

Ni chaiff ymgeiswyr presennol ymgyrchu pan fyddant ar amser gwaith a rhaid iddynt gymryd gwyliau blynyddol ar gyfer unrhyw fath o ymgyrchu gweithredol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ymgyrchu ar lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. 

Rhaid cyflwyno amserlen i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn nodi amser gwaith ac amser ymgyrchu. Rhaid i hyn gynnwys nosweithiau hefyd. Rhaid cyflwyno hwn cyn gweithgaredd ymgyrchu ac nid wrth edrych yn ôl. Rhoddir templed i ymgeiswyr ei lenwi. 

Ni ellir gwisgo dillad brand yr Undeb wrth ymgyrchu. 

Ni ellir defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Undeb, er enghraifft, cyfrifon neu dudalennau Facebook Swyddogion Sabothol, ar gyfer ymgyrchu neu hyrwyddo etholiadau. 

Ni ellir defnyddio rhestrau postio’r Undeb at ddibenion ymgyrchu. 

Yn dilyn cyfieithiad yr holl gyhoeddusrwydd a dderbynnir erbyn y dyddiad cau gall ymgeiswyr gyflwyno dyluniadau neu destun pellach i’w cyfieithu os dymunant ond dylent ganiatáu cyfnod rhesymol o amser i’r uned gyfieithu gwblhau’r gwaith. Ni ellir gwarantu cwblhad y cyfieithiadau hyn, er y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud.  

Ymgeiswyr sy’n Dal y Swyddi 

Ni ddylai ymgeiswyr sydd eisoes yn dal y swydd ymgyrchu yn ystod oriau gwaith ac mae’n rhaid iddynt gymryd gwyliau blynyddol ar gyfer unrhyw fath o ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ymgyrchu ar lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol. 

Rhaid cyflwyno amserlen i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau sy’n manylu ar amser gwaith ac amser ymgyrchu. Mae’n rhaid i hon gynnwys nosweithiau. Mae’n rhaid ei chyflwyno cyn gweithgarwch ymgyrch ac nid wrth edrych yn ôl. Darperir templed i ymgeiswyr ei lenwi. 

Ni cheir gwisgo dillad sydd â brand yr Undeb arnynt wrth ymgyrchu.  

Ni cheir defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Undeb, er enghraifft, cyfrifon neu dudalennau Facebook Swyddogion Sabothol ar gyfer ymgyrchu neu hyrwyddo etholiadau.  

Ni cheir defnyddio rhestrau postio’r Undeb at ddibenion ymgyrchu. 

Wrth ymweld â grwpiau er mwyn ymgyrchu, mae’n rhaid ei fod yn glir nad yw’r ymgeiswyr sy’n dal y swyddi yn bresennol ar fusnes yr Undeb Myfyrwyr, yn eu rôl fel Swyddog Sabothol. Mae’n rhaid manylu ar hyn ar yr amser ymgyrchu sydd wedi’i amserlennu.  

Ni cheir defnyddio adnoddau’r Undeb Myfyrwyr i gynorthwyo’r ymgyrchu.  

Cwynion 

Dylai’r holl gwynion a wneir am ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiad neu’r broses bleidleisio gael cyflwyno gan ddefnyddio’r Ffurflen Gwynion Etholiadau, dros e-bost, at y Dirprwy Swyddog Canlyniadau. Cwynion a gyflwynir gan ddefnyddio’r Ffurflen Gwynion Etholiadau swyddogol fydd yn cael eu hystyried yn unig. Rhaid i’r cwyn fod yn ffeithiol, yn cynnwys tystiolaeth glir o dorri’r rheolau ac yn amlygu’r rheol etholiad sydd wedi cael ei dorri.  

Yn yr achos cyntaf byd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau yn ystyried cwyn ac yn ei dyfarnu o fewn 24 awr. Os yw’n fater a ddyfernir yn ddifrifol gall y Dirprwy Swyddog Canlyniadau ei gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau i’w ystyried ar unwaith.  

Dylai cwynion sy’n ymwneud ag ymddygiad y Dirprwy Swyddog Canlyniadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig yn uniongyrchol at y Swyddog Canlyniadau.  

Rhaid i gwynion gael eu cyflwyno cyn i’r cyfrifiad etholiad gael ei wneud. Cwynion am y broses o gyfri ei hun yn unig fydd yn cael eu hystyried unwaith i’r cyfrifiad gychwyn, ac mae’n rhaid i’r rhain gael eu cyflwyno o fewn 24 awr ar ôl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi.  

Y sancsiynau sydd ar gael i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau yw: 

Rhybuddio ymgeisydd am eu hymddygiad yn y dyfodol. 

Cymryd camau i sicrhau chwarae teg er mwyn cywiro unrhyw reoliadau etholiad a dorrwyd. 

Dirwyo ymgeisydd trwy un ai lleihau’r swm o arian y cânt wario, neu trwy gymryd deunydd cyhoeddusrwydd printiedig.  

Gwahardd ymgeisydd a’u hymgyrch rhag ymgyrchu am gyfnod o amser (hyd at 24 awr). 

Gwahardd ymgyrchydd rhag gweddill yr ymgyrch (lle nad yw’r ymgyrchydd yn ymgeisydd). 

Ar ben yr holl sancsiynau uchod, mae’r canlynol ar gael i’r Swyddog Canlyniadau: 

Diarddel ymgeisydd o’r etholiad dros dro hyd nes gwneir ymchwiliad 

Diarddel y broses etholiad hyd nes gwneir ymchwiliad  

Awgrymu i’r pwyllgor etholiadau, ac i’r Brifysgol, bod yr ymgeisydd yn cael eu gwahardd 

Awgrymu i’r pwyllgor etholiadau, ac i’r Brifysgol, bod yr etholiad yn cael ei ail-wneud neu i’r bleidlais gael ei dirymu. 

Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan y Swyddog Canlyniadau a’u Dirprwy trwy gyflwyno eu hapêl yn ysgrifenedig, dros e-bost at elections@undebbangor.com, o fewn 24 awr o wneud y penderfyniad, yn dilyn y weithdrefn apêl a fanylir arno isod: 

Clywir yr apêl cam cyntaf gan y Swyddog Canlyniadau; os yw’r ymgeisydd yn anfodlon o hyd yna,  

Mae ail gam a cham olaf yr apêl i Ddirprwy Is-Ganghellor neu eu dirprwy enwebedig. 

Dylai bod cais am apêl fod dan yr amgylchiadau hyn, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i: 

Adolygiad o’r gweithdrefnau a ddilynwyd yn y cam cwyno.  

Ystyried a oedd y canlyniad yn rhesymol ym mhob amgylchiad.  

Deunydd sy’n dystiolaeth newydd nad oedd y myfyriwr, am resymau dilys, yn gallu eu darparu yn y broses ynghynt.  

Bydd unrhyw gyfathrebu dros e-bost i’r Swyddog neu’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n cael eu cydnabod dros ymateb e-bost o fewn 24 awr, os na dderbynnir hwn peidiwch â chymryd ein bod ni wedi ei dderbyn – cysylltwch â 01248 388000 i wirio.