-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Bob blwyddyn, mae myfyrwyr Bangor yn enwebu ac yn ethol tîm o fyfyrwyr fydd yn dod yn Swyddogion Sabothol llawn amser, gycha chyflog yn Undeb Bangor. Eu swydd nhw yw i’ch cynrychioli chi ac arwain trywydd yr Undeb Myfyrwyr.
Beth yw’r swydd?
Mae’r rhain yn swyddi cyflogedig. Mae’r Sabs yn arwain prosiectau ac ymgyrchoedd y maen nhw’n angerddol drostynt, gan wneud newidiadau o fewn y brifysgol ac yn genedlaethol. Mynd allan a siarad gyda myfyrwyr yw’r rôl, yn ogystal â gweithio gyda’n clybiau, cymdeithasau, prosiectau, rhwydweithiau a’n cynrychiolwyr cwrs. Mae’r Sabs hefyd yn gweithio ar syniadau a deisebau a gyflwynir gan fyfyrwyr ac yn cynrychioli myfyrwyr yng nghyfarfodydd lefel-uchel y Brifysgol.
Trwy fod yn Swyddog Sabothol, byddwch chi’n ennill profiad anhygoel fydd yn rhoi hyder a sgiliau cwbl unigryw i chi.