Gwobrau'r Undeb Athletau 2024

Dydd Llun 20-05-2024 - 11:55

Cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr ein cinio Undeb Athletau blynyddol yn Neuadd PJ ddydd Mercher, 1 Mai 2024, i ddathlu llwyddiannau myfyrwyr athletwyr sydd wedi rhagori yn eu campau priodol. Cyflwynwyd y digwyddiad hynod lwyddiannus gan Lewis Thompson, yr Is-lywydd Chwaraeon. Dechreuodd y noson gyda’r Is-ganghellor yn croesawu pawb ac yn llongyfarch y myfyrwyr athletwyr ar eu llwyddiannau rhagorol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roeddem i gyd wedi digalonni o fod wedi colli ffrind agos i lawer eleni, a rhywun a oedd rhan fawr o’n grwpiau chwaraeon, Matthew McParland. Er cof am Matthew, dyfarnwyd Gwobr Llywydd yr Undeb Athletau iddynt.

 

 

Er mwyn nodi pa mor bwysig yw cynaliadwyedd i ni yma yn Undeb Bangor; mae gennym Wobr Her Cynaladwyedd. Eleni, enillydd y wobr hon oedd Nofio Tanfor. Pêl-droed Dynion oedd enillwyr Gwobr Digwyddiad Gorau’r Undeb Athletau. Tenis Bwrdd oedd enillwyr Cynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).

Adaline Merrifield o Ffitrwydd Polyn oedd ein Glasfyfyrwraig y Flwyddyn, ac Oliver Havis sy’n chwarae Pêl-law oedd ein Glasfyfyriwr y Flwyddyn. Alex Moseley oedd Hyfforddwr Myfyriwr y Flwyddyn. Daliwch ati â’r gwaith gwych!

Rydym hefyd eisiau gwerthfawrogi gwaith caled y pwyllgor; ac felly, mae gennym wobrau arbennig i’w dyfarnu iddynt. Enillydd Aelod Pwyllgor y Flwyddyn oedd Paige Bowden, ac enillydd Capten y Flwyddyn oedd Madeleine Burgess. Dyfarnwyd y wobr Personoliaeth Chwaraeon i Holly Aitchinson.

Rydym yn gwobrwyo clybiau fel un, gan fod timau chwaraeon yn cyflawni pethau diolch i ymdrech tîm. Criced Dynion oedd Tîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth Ryng-golegol eleni. Ffitrwydd Polyn oedd enillwyr Gwobr Ysbryd Steve Connor yr Undeb Athletau. Golff oedd enillwyr y Wobr Cyfryngau Cymdeithasol. Dartiau oedd enillwyr Tîm Elusennol y Flwyddyn. Yn olaf, dyfarnwyd Tîm y Flwyddyn i Dîm A Dartiau, a Chriced Merched oedd enillwyr Clwb y Flwyddyn.

Daeth y noson i ben gydag araith gan Hollie Korobczyc, Llywydd yr Undeb Athletau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf,

Mae ein myfyrwyr wedi dangos ymroddiad a thalent eithriadol yn eu campau priodol ac maent wir yn haeddiannol o'r gydnabyddiaeth hon. Mae eu gwaith caled a'u hymrwymiad wedi cyfrannu at wneud y brifysgol yn gymuned fwy bywiog a chynhwysol. Roedd cinio’r Undeb Athletau’n llwyddiant mawr, ac mae’r brifysgol yn falch o gyfraniadau’r holl fyfyrwyr athletwyr a gafodd eu cydnabod yn y digwyddiad. Mae'r brifysgol yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi a hyrwyddo chwaraeon ac athletau fel rhan hanfodol o brofiad myfyrwyr. Llongyfarchiadau eto i bob un o'r enillwyr!

brwyo clybiau fel un, gan fod timau chwaraeon yn cyflawni pethau diolch i ymdrech tîm. Criced Dynion oedd Tîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth Ryng-golegol eleni. Ffitrwydd Polyn oedd enillwyr Gwobr Ysbryd Steve Connor yr Undeb Athletau. Golff oedd enillwyr y Wobr Cyfryngau Cymdeithasol. Dartiau oedd enillwyr Tîm Elusennol y Flwyddyn. Yn olaf, dyfarnwyd Tîm y Flwyddyn i Dîm A Dartiau, a Chriced Merched oedd enillwyr Clwb y Flwyddyn.

Daeth y noson i ben gydag araith gan Hollie Korobczyc, Llywydd yr Undeb Athletau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf,

Mae ein myfyrwyr wedi dangos ymroddiad a thalent eithriadol yn eu campau priodol ac maent wir yn haeddiannol o'r gydnabyddiaeth hon. Mae eu gwaith caled a'u hymrwymiad wedi cyfrannu at wneud y brifysgol yn gymuned fwy bywiog a chynhwysol. Roedd cinio’r Undeb Athletau’n llwyddiant mawr, ac mae’r brifysgol yn falch o gyfraniadau’r holl fyfyrwyr athletwyr a gafodd eu cydnabod yn y digwyddiad. Mae'r brifysgol yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi a hyrwyddo chwaraeon ac athletau fel rhan hanfodol o brofiad myfyrwyr. Llongyfarchiadau eto i bob un o'r enillwyr!

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...