-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
I’ch chi i fedru gwneud penderfyniad gwybodus rydym wedi llunio rhestr o'r holl ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol yn yr etholaeth leol (Bangor). Maent wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor ac mae’r geiriad yn union fel y cawsant eu hanfon atom.
Fe wnaethom gysylltu â'r holl ymgeiswyr lleol i roi'r cyfle iddynt anfon 3 phwynt bwled atom yn sôn am eu blaenoriaethau nhw, neu flaenoriaethau eu plaid mewn perthynas â myfyrwyr. Mae’r ymatebion a gawsom i’w gweld isod. Pan na chawsom ymateb gan yr ymgeiswyr rydym wedi rhoi dolen at faniffesto’r blaid honno.
Os nad ydych yn byw yn ardal Bangor, fe gewch wybodaeth sy’n berthnasol i chi yma: https://whocanivotefor.co.uk
Ymgeisydd —Rachel Roberts
Plaid – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Maniffesto - https://www.libdems.org.uk/manifesto
Ailsefydlu grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr difreintiedig ar unwaith i wneud yn siŵr nad yw costau byw yn rhwystr i astudio yn y brifysgol.
Gall costau byw fod yn bryder gwirioneddol i fyfyrwyr a'u teuluoedd, gan effeithio hyd yn oed ar ble rydych chi'n dewis astudio, os o gwbl. Credwn yn gryf mai nid disgwyl i fyfyrwyr orfod dibynnu ar fenthyciadau er mwyn cael mynediad i addysg uwch ydy’r ateb. Mae hyn ynddo’i hun yn difreinio pobl ac yn gwneud addysg a bywyd myfyrwyr yn fraint elitaidd i’r rhai hynny sy’n gallu fforddio’r ymrwymiad a’r ad-daliadau sy’n dod yn sgil cael benthyciad, yn hytrach na bod yn hawl i ddysgu a datblygu fel y dylai fod. Bydd dod â’r grant cynhaliaeth yn ôl, gan ddechrau gyda’r rhai sydd ei angen fwyaf, yn gwneud dewis yn bosibl unwaith eto mewn perthynas ag addysg uwch, sy’n rhywbeth y dylai darpar fyfyrwyr wastad fod wedi’i gael.
Creu Waledi Sgiliau newydd, gan roi £10,000 i bob oedolyn ei wario ar addysg a hyfforddiant gydol eu hoes.
Wrth dyfu i fyny mewn ardal dosbarth gweithiol lle bu’n rhaid i mi ddechrau gweithio yn 13 oed, rwy’n deall yn iawn nad yw pawb yn cael ein trin yn deg yng nghyswllt yr economi. Pe na bawn i wedi cael ysgoloriaeth teilyngdod o 50%, fyddwn i ddim wedi gallu derbyn fy lle ar y cwrs MA - a byddai fy mywyd ers hynny wedi bod yn dra gwahanol. Er fy mod i’n hynod ddiolchgar am hynny, roeddwn i wastad yn sylweddoli trwy i mi ennill yr ysgoloriaeth honno roedd pobl eraill wedyn yn cael eu gadael i frwydro ymhellach...
Dyna pam fy mod i mor falch bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mor feiddgar ag erioed, gynlluniau i sicrhau’r gymdeithas decach y mae pawb ohonom ei hangen. Waled Sgiliau ar gyfer pob oedolyn, i gael gwared ar rai o'r rhwystrau ariannol i gael mynediad i addysg bellach a hyfforddiant gyrfaol. Byddai hyn yn gweithio trwy gael ei rannu'n £4,000 yn 25 oed, £3,000 yn 40 oed, a £3,000 arall yn 55 oed, gyda mynediad am ddim at gyngor gyrfaoedd er mwyn gwybod sut orau y gallwch ddefnyddio'ch Waled Sgiliau. Mae rhannu cynnwys y waled fel hyn hefyd yn cefnogi pobl yn well wrth iddynt ddechrau ar wahanol gamau yn y byd gwaith, a’u teithiau astudio. A sut rydym am ariannu hyn? Trwy ddadwneud toriadau diangen a drud y Ceidwadwyr i’r Dreth Gorfforaeth. Byddwn yn dychwelyd y gyfradd i 20%, fel yr oedd yn 2016.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd ddylai cost ariannol y cwrs ddim bod yn rheswm i bobl fethu â gwireddu eu breuddwydion a chyrraedd eu potensial.
Ehangu cyfleoedd i bobl ifanc astudio, addysgu a gwirfoddoli dramor trwy ddychwelyd at y rhaglen Erasmus Plus fel gwlad gyswllt.
Rwy'n ffodus fy mod wedi gallu teithio'r byd, gan weithio a gwirfoddoli mewn gwahanol wledydd. Rwy’n credu bod y rhain yn gyfleoedd a ddylai fod yn agored ac yn hygyrch i bawb, y dylai pobl allu manteisio i’r eithaf arnynt a mwynhau’r profiadau rhyfeddol sydd ar gael.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol saith o werthoedd creiddiol: Rhyddid, Cydraddoldeb, Democratiaeth, Cymuned, Hawliau Dynol, Rhyngwladoliaeth ac Amgylcheddaeth. Rydym yn rhyngwladol ein hanian, ac yn ymfalchïo yn hynny, ac rydym yn gwybod ein bod ni i gyd ar ein hennill pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd - gan gynnwys gweithio gyda gwladwriaethau eraill, gyda'n gilydd, fel un byd cysylltiedig. Mae rhannu diwylliannau, ieithoedd, cyfnewid straeon a dysgu oddi wrth ein gilydd i gyd yn rhan o hynny. Rhan greiddiol o’n polisïau yw bod myfyrwyr heddiw yn cael mynediad cyfartal at yr cyfleoedd a gafodd y gweddill ohonom a hynny heb adael neb ar ôl..
Cofiwch bleidleisio ar y 4ydd o Orffennaf!
Ymgeisydd - Catrin Wager
Parti - Plaid Cymru
Maniffesto - https://www.plaid.cymru/maniffesto
Addewidion i Fyfyrwyr
Sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw
Rwy’n addo brwydro dros gyllid teg i fyfyrwyr ym Mangor, ni waeth pa lywodraeth sy’n ariannu eu hastudiaethau, a byddaf yn llais cryf yn galw i wneud yn siŵr na fydd myfyrwyr yn cael eu gadael ar ôl fel dioddefwyr yr argyfwng costau byw. Rwy’n cydnabod y rhan hanfodol mae myfyrwyr yn ei chwarae yng nghymdeithas ac economi etholaeth Bangor Aberconwy, ac ni fyddaf yn anghofio amdanoch yn ystod yr argyfwng costau byw.
Buddsoddi mewn Addysg
Rwy’n addo gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod prifysgolion Cymru yn cael cyllid digonol i aros yn ariannol hyfyw. Bydd hyn yn cynnwys:
Gweithio tuag at y nod hirdymor o wneud addysg prifysgol yn rhad ac am ddim unwaith eto a dileu ffioedd dysgu. Gan ddechrau trwy ostwng uchafswm y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500.
Cynyddu buddsoddiad y Llywodraeth mewn Ymchwil a Datblygu.
Brwydro i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn dal i gael astudio yn y Deyrnas Unedig, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi am eu cyfraniad i fywyd academaidd ac i’n cymuned hynod amrywiol.
Tai a Lles
Rwy’n addo mynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl presennol a mynd i’r afael â chyflwr truenus tai myfyrwyr, a thrin hynny fel blaenoriaeth. Mae tai ac iechyd yn faterion sydd wedi eu datganoli i Gymru, ac sy’n cael eu rhedeg gan Lafur Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd – mae’r ddau faes yn wynebu argyfwng a byddant yn flaenoriaethau i mi os caf fy ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Bangor Aberconwy.
Ymgeisydd: John Clarke
Plaid: Plaid Diwygio'r Deyrnas Unedig
Dyma bwyntiau allweddol ein polisi’n ymwneud â myfyrwyr addysg uwch:
· Lle mae’n bosibl/ymarferol, annog cyrsiau gradd i fod yn 2 flynedd o hyd, yn lle 3. Bydd hyn yn arbed miloedd o bunnoedd i fyfyrwyr mewn ffioedd, sy'n aml yn cael eu hariannu trwy fenthyciadau.
· Byddwn yn dileu cyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr ac yn ymestyn cyfnod ad-dalu’r cyfalaf.
· Cyfyngu ar niferoedd israddedigion ymhell islaw'r lefelau presennol, mae gormod o gyrsiau sydd ddim yn ddigon da ac mae myfyrwyr yn cael eu twyllo’n ariannol. Gorfodi safonau mynediad gofynnol. Stopio’r llwybr drws cefn i fewnfudo trwy gyrsiau gradd o ansawdd isel.
https://www.reformparty.uk/education
Ymgeisydd – Robin Millar
Plaid- Y Blaid Geidwadol
Maniffesto - https://manifesto.conservatives.com/
Fy Nghynllun
Cyflwyno’r hawl i ddysgu gydol oes – y byddwn yn ei gyflwyno’r flwyddyn nesaf – a fydd yn cynnig mynediad i fyfyrwyr at hyd at bedair blynedd o gyllid trwy gyfrwng benthyciadau i’w ddefnyddio ar sail hyblyg
Cynyddu gwariant cyhoeddus ar ymchwil a datblygu i £22 biliwn y flwyddyn, i fyny o’r £20 biliwn presennol.
Ni ddylai ein pobl ifanc orfod gadael gogledd Cymru i gael swydd, i gael cyfleoedd neu i wneud rhywbeth ohonyn nhw eu hunain. Mewn pedair blynedd rwyf wedi helpu i ddenu’r buddsoddiad mwyaf erioed ar draws gogledd Cymru – er mwyn i’n pobl ifanc gael y dyfodol y maent yn ei haeddu.
Rhagor o wybodaeth - https://www.robin-millar.org.uk/
Ymgeisydd Claire Hughes
Plaid – Y Blaid Lafur
Maniffesto - https://labour.org.uk/change/
Gwneud i Waith Dalu
Mae Cynllun Gwneud i Waith Dalu y Blaid Lafur yn rhan greiddiol o’n cenhadaeth i dyfu economi Prydain a chodi safonau byw ym mhob rhan o’r wlad.
Y Fargen Newydd i Bobl sy’n Gweithio yw sut y byddwn yn rhoi hwb i gyflogau, yn darparu gwaith diogel ac yn cefnogi pobl sy’n gweithio fel bod modd iddynt ffynnu – byddwn yn gwahardd defnyddio contractau dim oriau, sy’n arfer sy’n ecsbloetio pobl, yn rhoi terfyn ar ddiswyddo ac ailgyflogi, ac yn darparu cyflog byw gwirioneddol, a fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi ystyriaeth i gostau byw.
Torri Biliau Ynni Unwaith ac am Byth
Cynllun Ffyniant Gwyrdd y Blaid Lafur yw ein cynllun blaengar i dyfu’r economi, torri biliau ynni unwaith ac am byth a gwneud Prydain yn annibynnol o ran ynni.
O dan y Blaid Lafur, bydd biliau ynni’n cael eu torri unwaith ac am byth gyda GB Energy, sef corff newydd dan berchnogaeth gyhoeddus i ddatblygu ynni glân, yn cael ei ariannu trwy godi treth ffawdelw briodol ar gwmnïau olew a nwy.
Bydd ein system ynni di-garbon newydd yn gostwng biliau unwaith ac am byth, a byddwn yn insiwleiddio 5 miliwn o gartrefi dros gyfnod y senedd nesaf drwy ein Cynllun Cartrefi Cynnes.
Tyfu'r Economi Werdd a’r Economi Leol
Dylai Bangor fod ar flaen y gad o ran economi werdd y Deyrnas Unedig. Mae gennym gymaint o botensial yma gan gynnwys adnoddau naturiol, gweithlu tra medrus a chymuned wyddonol.
Bydd Cynllun Ffyniant Gwyrdd y Blaid Lafur yn creu 650,000 o swyddi erbyn 2030 - a byddaf i yn defnyddio fy mhrofiad proffesiynol mewn technoleg ac arloesi i sicrhau bod Bangor yn ganolog yn hynny.
Bydd y Blaid Lafur yn denu llawer o fuddsoddiad mewn technolegau newydd megis ynni gwynt alltraeth sy’n arnofio a hydrogen, ac yn sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i gynlluniau ynni cymunedol. Creu swyddi medrus, o ansawdd da yn yr ardal hon, a chyfleoedd oddi fewn i’r cadwyni cyflenwi.
Ymgeisydd —Catherine Jones
Plaid– Y Blaid Lafur Sosialaidd
Maniffesto - https://www.socialistlabourparty.org/post/kathrine-jones-socialist-labour-party-candidate-for-bangor-aberconwy
Ni chafwyd ymateb
Ymgeisydd — Petra Haig
Plaid – Plaid Werdd Gogledd Orllewin Cymru
Maniffesto - https://greenparty.org.uk/about/our-manifesto/
Cael gwared ar ffioedd dysgu
Isafswm cyflog o £15
Rheoli Rhent
Ymgeisydd - Steve Marshall
Plaid - Plaid yr Hinsawdd
Maniffesto- https://theclimate.party/
Ni chafwyd ymateb