-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Efallai eich bod yn ymwybodol bod myfyrwyr ddoe, dydd Mercher 8 Mai, wedi sefydlu gwersyll y tu allan i Pontio, mewn undod â phobl Palestina.
Fel eich swyddogion etholedig, rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i arfer eu hawl i ryddid i lefaru a sefyll y tu ôl i ymdrechion ein cymuned myfyrwyr i rannu, trafod, a herio safbwyntiau amrywiol ar ystod o faterion. Rydym wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y myfyrwyr sy’n protestio a’n hymrwymiad yw hwyluso trafodaethau rhwng y myfyrwyr, y brifysgol ac undeb y myfyrwyr mewn modd diogel a chynhyrchiol.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu lles ein cymuned gyfan o fyfyrwyr ac yn annog myfyrwyr i ymgysylltu’n gadarnhaol er mwyn sicrhau bod protestiadau’n cael eu cynnal mewn modd sy’n blaenoriaethu diogelwch a lles pawb sy’n cymryd rhan.
Sut i godi pryderon
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael eich effeithio gan, neu wedi sylwi ar unrhyw bryderon diogelu, mae'r manylion ar sut i gael mynediad i gefnogaeth i'w gweld trwy ddefnyddio'r ddolen isod:
https://www.bangor.ac.uk/studentservices/wellbeing/index.php.en