Undeb Bangor yn Glanhau Traethau fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwas

Dydd Gwener 01-11-2024 - 09:09

Ddydd Llun, 14 Hydref, aeth dros 70 o wirfoddolwyr i lannau'r Fenai ym Mangor i lanhau'r traeth am 3 awr. Trefnwyd y digwyddiad gan Undeb Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Champws Byw. Roedd Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru hefyd yn bresennol ac yn cefnogi'r digwyddiad.

Nid oedd glanhau’r traeth yn dasg hawdd, ond erbyn diwedd y 3 awr, roedd y gwirfoddolwyr wedi casglu 20 bag o sbwriel, er bod hyd yn oed mwy ar ôl y gellid bod wedi ei gasglu! Ar y dechrau, rhoddodd y Project Gwirfoddoli Glanhau Traethau gyflwyniad yn amlinellu eu cynlluniau at y flwyddyn a'u nod o gasglu mwy o ddata ar y math o sbwriel a faint o sbwriel sy'n cael ei gasglu wrth lanhau traethau. Maen nhw’n bwriadu lansio ffurflen i gasglu data gan wirfoddolwyr, gan obeithio y bydd yn fuddiol at ddibenion ymchwil.

Dywedodd Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol, “Mae’n anhygoel gweld cymaint o fyfyrwyr yn dod at ei gilydd i lanhau’r arfordir lleol. Nid yn unig hynny, ond mae gwir ddiddordeb mewn cefnogi ac integreiddio â’n cymuned leol drwy’r gweithgareddau hyn. Mae ein Project Gwirfoddoli Glanhau Traethau yn edrych ymlaen at gefnogi grŵp newydd Cadw Bangor yn Daclus gyda'u sesiynau casglu sbwriel misol o amgylch Bangor. Dim ond un enghraifft o gyfraniad ein myfyrwyr yw’r project hwn; mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i blannu coed, monitro ein poblogaeth leol o lygod dŵr ac ansawdd afonydd a datblygu mannau gwyrdd. Maen nhw wrth eu boddau’n gweithio gyda phartneriaid fel Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Natur, a Menter Môn i gynyddu effaith eu gwaith.”

Roedd glanhau'r traeth yn rhan o raglen eang o weithgareddau a gynhaliwyd gan Undeb Bangor fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff. Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys caffi cyfnewid a thrwsio dillad, lle cafodd 15 o eitemau eu trwsio a’u harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan roi cyfle i'r ddau sefydliad siarad â myfyrwyr am yr heriau y maent yn eu hwynebu gyda gwaredu a rheoli gwastraff. Nod yr ymweliadau oedd sicrhau bod gan denantiaid yr holl wybodaeth a chynwysyddion angenrheidiol er mwyn gallu ailgylchu'n iawn. Yn ystod yr ymweliadau hyn, buont yn ymweld â dros 170 o dai i rannu gwybodaeth.

Llwyddodd Undeb Bangor i ennill Gwobr Ragoriaeth Effaith Werdd y llynedd ac mae’n gobeithio parhau i ymdrechu i sicrhau cynaliadwyedd drwy gydol y flwyddyn academaidd hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gymryd rhan, gallwch gysylltu â gwirfoddoli@undebbangor.com.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...