Sut i greu Maniffesto

Nid oes angen i ysgrifennu maniffesto fod yn rhywbeth i chi dynnu gwallt eich pennau drosto. Yn ei hanfod, dylai bod eich maniffesto yn nodi beth fyddech chi’n bwriadu ei wneud yn ystod eich amser yn y swyddfa, a pha newidiadau hoffech chi eu gwneud. Cofiwch, nid yw’n esgus i ladd ar y rheiny sydd yn eich erbyn, nac i wneud addewidion afrealistig. Cymrwch amser cyn ysgrifennu i feddwl am yr hyn ydych chi’n credu y gallwch ei gyflawni a beth fyddai’r pleidleiswyr yn ymateb iddo.  

Ychydig o awgrymiadau wrth ysgrifennu eich maniffesto;

  • Byddwch yn gryno a defnyddiwch iaith glir. Ceisiwch osgoi geiriau hir, cymhleth-ni fyddwch chi’n ennill gwobrau am fod yn glyfar ac fe allech chi bellhau eich hunain oddi wrth bleidleiswyr pwysig.
  • Meddyliwch yn ofalus am y trefniad a chofiwch y bydd y maniffesto terfynol yn ddwyieithog. Ceisiwch ei lunio’n ddwyieithog o’r cychwyn.  
  • Gosodwch eich nodau ar gyfer eich amser yn y swyddfa a sicrhewch eu bod nhw’n realistig ac yn gyraeddadwy.
  • Amdanoch chi mae eich maniffesto ac nid y rheiny sydd yn eich erbyn. Ceisiwch osgoi amau ac amharchu eraill gan nad yw’n broffesiynol ac fe allai arwain at dorri rheolau yn y pen draw!  
  • Byddwch yn berthnasol. Meddyliwch am yr hyn sydd ei angen ar gyfer y rôl a chanolbwyntiwch ar hynny. Gall achosion lle’r ydych chi wedi dangos arweiniad, cryfder a doethineb yn dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl i bleidleiswyr.
  • Cadwch at y cyfyngiad geiriau (cyfyngiad 350 gair). Dyma’r rheolau, wedi’r cyfan, bydd y pleidleiswyr eisiau clywed yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud. Meddyliwch yn ofalus am sut i fynegi eich pwyntiau craidd.  
  • Byddwch yn greadigol ac ysbrydoledig, ond cofiwch i gadw at y rheolau. Os ydych chi’n ansicr, gofynnwch bob tro.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich maniffesto i at www.undebbangor.com/nominations erbyn 12:00, ddydd Mercher y 14eg o Chwefror, 2024.