-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Ar y 20fed o Dachwedd 2024 am 13:00 fe wnaeth 12 o fyfyrwyr cwrdd yn yr ROR gyda'r Tîm Sabothol ac aelodau o staff Undeb Bangor i drafod materion pwysig iddyn nhw fel rhan o'r fforwm myfyrwyr.
Syniad / Deiseb 1: “Galw ar Brifysgol Bangor i foicotio Costa a Starbucks”.
Prifysgol wedi cytuno i gynnal gwerthusiad, ond methu diddymu cwmnïau tan i’w cytundeb dod i ben. Unwaith mae’r cytundebau yn dechrau dod i be,, bydd myfyrwyr yn cael eu gofyn os rydyn nhw eisiau cael gwared â’r busnesau yma, sy’n gallu arwain at y diswyddiad o’r busnesau. Sabbs wedi danfon e-bost yn gofyn sut a phryd bydd yr arolwg yma yn digwydd.
Pleidlais fynegol: Ie, mewn cefnogaeth o’r syniad: 12, Na: 0, Ymatal: 0
Syniad / Deiseb 2: “Cael allweddi radar ar gael i fyfyrwyr anabl i gymryd er mwyn iddyn nhw gael mynediad i’r bob toilet hygyrch”.
Mae gan lawr 1af Pontio toiledau anabl sydd angen allweddi radar. Mae Nida eisiau i fyfyrwyr hysbysu’r UM os oes yna unrhyw doiledau arall sydd angen allweddi radar.
Dim pleidlais wedi’i gynnal gan fod yna cefnogaeth gyffredinol am fynediad anabl, hawl yw hi.
Syniad / Deiseb 3: “Polisi gyrfaoedd moesegol”
Ffair gyrfaoedd diweddar wedi cynnwys cwmnïau llygrwyd sy’n mynd yn erbyn gwerthoedd cynaliadwyedd y brifysgol. Mae Rose wedi drafftio cynnig i’r brifysgol i atal rhag gweithio gyda chwmnïau sy’n mynd yn erbyn gwerthoedd.
Syniad / Deiseb 4: “Llai o blastig mewn peiriannau gwerthu”
Syniad / Deiseb 5: “Gwneud hyfforddiant ymyrraeth gwylieddyn yn orfodol”
Rose yn pwysleisio bod y ffordd mae’n cael ei gynnal yn aneffeithlon a ddim yn orfodol. Fel arfer mae rhaid i ddarlithwyr rhoi fyny amseroedd darlithio i’r hyfforddiant cael ei gynnal.
Pleidlais fynegol: Ie - 12, Ymatal - 0, Na - 0.
Syniad / Deiseb 6: “Adennill y Noson” - https://undebbangor.native.fm/event/reclaim-the-night-march-2024/239812
Digwyddiad yn digwydd 5-7 yh 3ydd o Ragfyr,
Creu baneri gyda’r gymdeithas crefft
Gwybodaeth oedd ar yr agenda yn bresennol wedi’i rhannu. Dim sylwadau pellach.
Syniad / Deiseb 7: “Gwrth- sbeicio diodydd”
Rose wedi son bod Harp ac Academi yn wneud lot o waith yn profi diodydd am sbeicio a darparu cloriau diodydd.
Syniad / Deiseb 8: “Digwyddiad PGR yn y flwyddyn newydd” - Nida
Syniad / Deiseb 9: “Digwyddiad Nadolig” - https://undebbangor.native.fm/event/christmas-meal-16/241149
Syniad / Deiseb 10: “Rhandaliadau misol i fyfyrwyr rhyngwladol” - Nida
Ail flwyddyn Nida o wthio am y newid yma. Eisiau mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan gyda’r fenter i gyflymu amser ymateb y brifysgol
Syniad / Deiseb 11: “Deall profiadau myfyrwyr Cymraeg” - Gwion
Dod o hyd i fwy o wybodaeth gan fyfyrwyr Cymraeg am faterion penodol fel pam bod pobl leol yn dewis i fyw gartref, pam dewis Bangor ayyb.
Syniad / Deiseb 12: “Diweddariad chwaraeon a diwylliant” - Hollie
Mae Hollie eisiau ffocysu ar ddiwylliant mwy cefnogol yn enwedig o gwmpas Varsity.
Diolch i'r holl fyfyrwyr a fynychodd y Fforwm Myfyrwyr os hoffech chi gyflwyno syniadau eich hunain am y Fforwm Myfyrwyr nesaf gallwch chi wneud yma: https://www.undebbangor.com/thestudentvoice