-
Eich Undeb
Gwybodaeth Gyffredinol
Swyddogion Sabothol
-
Cymerwch Ran!
Hwb Gwirfoddoli
-
Llais Myfyrwyr
Cynrychiolwyr Cwrs
Student Forum
-
Cyngor A Chefnogaeth
- Ymgyrchoedd
- Etholiadau
Beth yw'r Wobr Effaith Werdd?
Mae'r Wobr Effaith Werdd yn gynllun achredu amgylcheddol sy'n cydnabod ac yn hyrwyddo arferion cynaliadwy o fewn Undebau Myfyrwyr. Fe'i gweinyddir gan Students Organising for Sustainability (SOS-UK). Mae'r Wobr Effaith Werdd yn gosod safon ar gyfer arferion gorau amgylcheddol ac yn annog sefydliadau sy'n cymryd rhan i wella eu perfformiad cynaliadwyedd flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae'r wobr yn darparu fframwaith i sefydliadau asesu a gwella eu heffaith amgylcheddol ar draws meysydd amrywiol, gan gynnwys defnydd ynni a dŵr, rheoli gwastraff, teithio, caffael, bioamrywiaeth, a chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn ymgymryd â chyfres o gamau gweithredu a mentrau i gyflawni targedau penodol a bodloni'r meini prawf a osodwyd gan y rhaglen Effaith Werdd.
Mae Undeb Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi ennill y Safon Ragorol yn Wobrau Effaith Werdd Undeb Myfyrwyr 2022-23. Mae'r gydnabyddiaeth uchel ei pharch hon yn tanlinellu ymrwymiad parhaus yr Undeb i gynaliadwyedd a rhagoriaeth amgylcheddol.
Gellir priodoli llwyddiant Undeb Bangor o gyrraedd y Safon Ragorol i'w ystod o fentrau dylanwadol sy'n mynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd hollbwysig ac yn annog newid cadarnhaol. Yn nodedig, mae Ymgyrch Costau Byw’r Undeb yn enghreifftio’r cysylltiad rhwng cynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol, gan sicrhau manteision nid yn unig i les ariannol myfyrwyr ond hefyd i’r amgylchedd yn ystod cyfnod heriol.
Drwy gydol y flwyddyn, gweithredodd Undeb Bangor gyfres o fentrau i gefnogi myfyrwyr yn ystod yr argyfwng costau byw, gan gynnwys darparu cynhyrchion mislif amldro am ddim, trefnu cyfnewidiadau dillad gyda thros 300-400 o eitemau yn cael eu cyfnewid, cynnal Caffis Trwsio a atgyweiriodd 50 o eitemau, lobïo’r Brifysgol am y prydau bwyd £2, dosbarthu tocynnau graddio am ddim i fyfyrwyr, caniatáu costau teithio i fyfyrwyr ar leoliad, darparu talebau bwyd brys, ariannu gweithgareddau awyr agored am ddim, a sicrhau ymrwymiad gan y brifysgol am fwrsarïau o £100 i fyfyrwyr sy'n cwblhau cwrs israddedig lleoliad proffesiynol. Yn ogystal, llwyddodd yr Undeb i basio polisi Te a Choffi Masnach Deg, gan sicrhau bod nwyddau Masnach Deg yn cael eu prynu ar gyfer digwyddiadau a drefnir gan yr undeb, yn unol â chymeradwyaeth Cyngor y Myfyrwyr.
Mae cydweithrediad Undeb Bangor gyda sefydliadau amgylcheddol ac elusennau wedi cyfoethogi cyfleoedd cynaliadwyedd a pherthnasedd myfyrwyr i'w gweithgareddau academaidd. Arweiniodd partneriaethau gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyfer y Prosiect Gwirfoddoli Glanhau Traethau at gasglu 50 kg a 1,200 o ddarnau unigol o sbwriel. Yn ‘The Bangor Big Clean’, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Chyngor Dinas Bangor, Cyngor Gwynedd, ysgolion lleol, a phrosiectau gwirfoddoli'r Undeb, cafwyd gwared ar tua 20 bag o sbwriel. Yn ogystal, bu cyfle gwirfoddoli newydd gyda Menter Môn i alluogi myfyrwyr i fonitro llygod pengrwn y dŵr yn yr ardal leol, tra bod sgyrsiau a theithiau tywys a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ymdrechion cadwraeth.
Canmolodd archwiliwr o’r rhaglen Effaith Werdd Undeb Bangor am eu gwaith rhagorol, gan ddweud, “Roedd yn alwad wych iawn, a mwynheais glywed am yr holl waith gwych y maent wedi’i wneud eleni a’u gwir angerdd drosto. Dwi wedi’u syfrdanu gan rai o’r ymgyrchoedd ac yn gyffrous iawn i weld beth fyddan nhw’n ei gyflawni’r flwyddyn nesaf.”
Rhannodd Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol, a gydweithiodd yn agos â Chynorthwyydd Cynaliadwyedd yr Undeb, Beth Quinton, aelod o staff sy’n fyfyriwr, i ennill y gydnabyddiaeth hon, gan ddweud,
“Mae cyflawni rhagoriaeth yng Ngwobr Effaith Werdd Undeb y Myfyrwyr yn dyst i’n cymuned o fyfyrwyr a staff ymroddedig. Roedd eu gwaith caled a’u cydweithrediad wedi galluogi mentrau cynaliadwyedd cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol amrywiol. Mae gweithio gyda myfyrwyr brwdfrydig sy’n gwirfoddoli sydd wir yn gofalu am bobl a’r amgylchedd wedi bod yn anrhydedd. Estynnwn ddiolch arbennig i Beth Quinton, ein Cynorthwy-ydd Cynaliadwyedd anhygoel, am ei chefnogaeth amhrisiadwy yn y broses. Gyda’n gilydd, rydym yn creu dyfodol cynaliadwy i’n prifysgol a’n cymuned.”
Mae Undeb Bangor yn parhau i fod yn angerddol am eu hymroddiad i gynaliadwyedd a bydd yn parhau i arwain trwy esiampl, gan ymdrechu i gyflawni hyd yn oed yn fwy yn y blynyddoedd i ddod.